SL(6)692 – Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Darparu Gwybodaeth am Newidiadau mewn Amgylchiadau) (Cymru) 2026

Cefndir a diben

Mae'r Rheoliadau hyn yn gosod dyletswydd ar berson (“P”) i ddarparu gwybodaeth i awdurdodau bilio pan fydd P yn dod yn dalwr ardrethi hereditament neu pan fydd newidiadau penodol yn digwydd mewn perthynas â meddiannaeth hereditament y mae P yn dalwr ardrethi arno (y “ddyletswydd gwybodaeth hysbysadwy”). Mae'r Rheoliadau hefyd yn darparu ar gyfer system o gosbau am fethu â chydymffurfio â'r ddyletswydd honno a gweithdrefnau ar gyfer adolygu ac apelio yn erbyn cosbau.

Mae rheoliad 3 yn darparu bod rhaid i P hysbysu'r awdurdod bilio perthnasol am y newidiadau a ganlyn, ynghyd â’r dyddiad y digwyddodd hynny—

·         Pan fydd newid yn hunaniaeth P. Mae hyn yn golygu bod rhaid i P hysbysu’r awdurdod bilio mai P yw’r talwr ardrethi newydd ar gyfer yr hereditament;

·         Pan fydd P yn dod yn feddiannydd ac yr oedd yr hereditament heb ei feddiannu yn union cyn y newid. Mae hyn yn golygu bod rhaid i P hysbysu’r awdurdod bilio os yw P yn meddiannu’r hereditament a oedd heb ei feddiannu yn flaenorol (pa un a oedd P eisoes yn dalwr ardrethi fel perchennog yr hereditament heb ei feddiannu ai peidio);

·         Pan fydd person yn peidio â bod yn feddiannydd a bod yr hereditament heb ei feddiannu yn union ar ôl y newid. Mae hyn yn golygu, pan fo P yn berchennog ar yr hereditament heb ei feddiannu (pa un a oedd P eisoes yn dalwr ardrethi fel y meddiannydd blaenorol ai peidio), rhaid i P hysbysu’r awdurdod bilio nad yw’n cael ei feddiannu mwyach. Rhaid i P gydymffurfio â’r ddyletswydd gwybodaeth hysbysadwy o fewn 60 o ddiwrnodau ar ôl i’r newid perthnasol ddigwydd.

Mae rheoliad 4 yn gwneud darpariaeth ynghylch gosod cosbau ariannol. Pan fo P neu dalwr ardrethi blaenorol yn methu â chydymffurfio â’r ddyletswydd gwybodaeth hysbysadwy o fewn y cyfnod a bennwyd, caniateir gosod cosb sifil o £500 ar y person hwnnw. Pan fo’r person hwnnw’n gwneud datganiad anwir yn fwriadol neu’n ddi-hid wrth honni cydymffurfio â’r ddyletswydd gwybodaeth hysbysadwy, bydd yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy nad yw’n fwy na lefel 3 ar y raddfa safonol. Mae'r rheoliad hwn hefyd yn ymdrin â materion mewn perthynas ag adennill y gosb sifil.

Mae rheoliad 5 yn gwneud darpariaeth ynghylch y wybodaeth y mae rhaid ei chynnwys mewn hysbysiad sy’n gosod cosbau o’r fath (“hysbysiad cosb”).

Mae rheoliadau 6 i 8 yn nodi’r gweithdrefnau ar gyfer adolygu hysbysiadau cosb a’u cyflwyno, gan gynnwys y gofyniad bod rhaid i awdurdodau bilio gyflwyno hysbysiad cosb pellach pan fo swm y gosb wedi ei leihau neu ei ddileu yn llawn.

Mae rheoliad 9 yn gwneud darpariaeth ynghylch apelio yn erbyn hysbysiad cosb neu hysbysiad cosb pellach.

Mae rheoliad 10 yn diwygio Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) 2017 mewn perthynas â’r wybodaeth ragnodedig y mae rhaid ei chynnwys mewn hysbysiad galw am dalu a gyflwynir i dalwr ardrethi. Bydd y diwygiadau yn ei gwneud yn ofynnol i hysbysiadau galw am dalu gynnwys gwybodaeth sy’n atgoffa talwyr ardrethi am y ddyletswydd gwybodaeth hysbysadwy.

Mae rheoliad 11 yn diwygio Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Newid Rhestrau ac Apelau) (Cymru) 2023 i sicrhau bod darpariaethau perthnasol y Rheoliadau hynny’n gymwys mewn perthynas ag apelau a ddygir yn erbyn hysbysiadau cosb o dan y Rheoliadau hyn, ar wahân i’r diwygiad yn rheoliad 11(3)(b), sy’n sicrhau y caniateir cynnwys awdurdod bilio yn barti i apêl a ddygwyd o dan ddarpariaethau penodol yn Atodlen 9 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988.

Y weithdrefn

Cadarnhaol drafft.

Mae Gweinidogion Cymru wedi gosod drafft o’r Rheoliadau gerbron y Senedd. Ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud y Rheoliadau oni bai bod y Senedd yn cymeradwyo’r Rheoliadau drafft.

Materion technegol: craffu

Nodwyd y 2 bwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

1.    Rheol Sefydlog 21.2(v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â’i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol.

Mae rheoliad 4(6)(b) yn nodi na chaniateir gwneud hawliad i adennill cosb “os gwneir adolygiad o dan reoliad 6(2)”. A ddylai hyn gyfeirio at sefyllfa lle mae adolygiad yn ofynnol neu lle gofynnir am adolygiad yn hytrach nag at sefyllfa lle “gwneir” adolygiad?

2.    Rheol Sefydlog 21.2(vii) – ei bod yn ymddangos bod anghysondebau rhwng ystyr testun Cymraeg a thestun Saesneg yr offeryn.

Yn rheoliad 7(a), mae gwahaniaeth rhwng y testun Cymraeg a’r testun Saesneg. Mae’r testun Saesneg yn dweud “the amount of the revised penalty amount” ond mae’r testun Cymraeg yn dweud “swm diwygiedig y gosb”.

 

Rhinweddau: craffu    

Nodwyd y 2 bwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

3.    Rheol Sefydlog 21.3(i) – ei fod yn codi tâl ar Gronfa Gyfunol Cymru neu ei fod yn cynnwys darpariaethau sy’n ei gwneud yn ofynnol i daliadau gael eu gwneud i’r Gronfa honno neu i unrhyw ran o’r llywodraeth neu i unrhyw awdurdod lleol neu gyhoeddus yn gydnabyddiaeth am unrhyw drwydded neu gydsyniad neu am unrhyw wasanaethau sydd i’w rhoi, neu ei fod yn rhagnodi swm unrhyw dâl neu daliad o’r fath.

Mae rheoliad 4(4) yn nodi bod rhaid talu unrhyw swm sy’n dod i law’r awdurdod bilio drwy gosb o dan reoliad 4(1) i Gronfa Gyfunol Cymru.

4.    Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd

Mae paragraff 2 o'r Memorandwm Esboniadol yn esbonio:

“Mae’r offeryn hwn wedi ei lunio heb ddefnyddio’r feddalwedd newydd ar gyfer offerynnau statudol Cymru. Mae’n bosibl felly y bydd angen gwneud mân welliannau i’r fformadu yn ystod y broses gofrestru os caiff y ddeddfwriaeth hon ei chymeradwyo gan y Senedd a’i gwneud gan Weinidogion Cymru.”

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae angen ymateb gan Lywodraeth Cymru i bwyntiau adrodd 1 a 2.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

6 Ionawr 2026